Amdanom Ni

 Beth mae Ffagl Gobaith yn ei wneud? 

Elusen gofrestredig yw Ffagl Gobaith, sy’n cynnig cysur ar unwaith, a chymorth parhaus – cymorth ymarferol a gofal nyrsio – i bobl yng Ngheredigion, De Gwynedd a Gorllewin Powys sy’n dioddef o salwch terfynol neu salwch sy’n byrhau bywyd. Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr yn gweithio yn y gymuned yn ardaloedd Aberystwyth, Aberteifi a Machynlleth, a’u nod yw galluogi pobl i fyw bywyd mor llawn â phosibl yn yr amser sydd ganddynt ar ôl

 

Sut y gallwn ni eich helpu chi

Ydych chi’n gofalu am rywun sy’n wael, neu efallai newydd dderbyn diagnosis? Mae ein drws bob amser ar agor, ac rydym yn sylweddoli bod materion iechyd weithiau’n gallu bod yn ddryslyd ac yn llawn o jargon meddygol. Oherwydd hynny, rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod yr wybodaeth y byddwn yn ei rhoi yn glir, yn gynhwysfawr ac yn gyfoes. Os oes arnoch angen cymorth, mae croeso i chi ymweld â’n gwasanaethau.

Rydym yn sylweddoli pa mor bwysig yw hi eich bod yn gallu cael mynediad at yr wybodaeth ddiweddaraf, barn arbenigwyr a chefnogaeth – a dyna pam rydym yn sicrhau bod y cyfan ar gael ar-lein, a’i fod yn hawdd dod o hyd iddo. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn un o Wirfoddolwyr Ffagl Gobaith? Gwybod rhagor

 Hoffech chi wybod rhagor am noddwyr yr elusen?
Cliciwch yma

 Hoffech chi wybod rhagor am hanes yr elusen?
Cliciwch yma

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn un o Wirfoddolwyr Ffagl Gobaith? Gwybod rhagor